Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu’r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac mae modd eu gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 8 Gorffennaf 2014 a dydd Mercher 9 Gorffennaf 2014
Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2014 a dydd Mercher 16 Gorffennaf 2014
Toriad: Dydd Llun 21 Gorffennaf 2014 - dydd Sul 14 Medi 2014
Dydd Mawrth 16 Medi a dydd Mercher 17 Medi 2014
***********************************************************************
Dydd Mawrth 8 Gorffennaf 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Cyflwyno Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (60 munud)
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Comisiwn Williams (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Y Papur Gwyn Llywodraeth Leol (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (30 munud)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd (15 munud)
· Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Bwyd o Brydain) 2014 (15 munud)
· Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Tai (Cymru) (15 munud)
Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NNDM5536
Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r awydd llethol ymhlith cefnogwyr pêl-droed i weld cyfleusterau sefyll diogel yn cael eu cyflwyno;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chymdeithasau chwaraeon ac awdurdodau rheoleiddio i hyrwyddo cyfleusterau sefyll ddiogel yn stadia chwaraeon yng Nghymru; ac
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno cynllun peilot ar gyfer cyfleusterau sefyll diogel yng Nghymru.
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar ei ymchwiliad i reoli tir yn gynaliadwy (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer - Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
· Dadl Fer - Nick Ramsay (Mynwy) (30 munud) - Gohiriwyd ers 18 Mehefin 2014
Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (90 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Adnewyddu’r polisi newid hinsawdd (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi: Cynnydd o ran y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi (45 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
· Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (15 munud)
· Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Adnabod Cŵn) (Cymru) 2014 (15 munud)
· Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2014 (15munud)
· Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2014-15 (30 munud)
Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Datganiad gan Bethan Jenkins: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) (30 munud)
· Dadl ar Adroddiad Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch argaeledd gwasanaethau baritarig (60 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Eluned Parrott (Canol De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 16 Medi 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014 (15 munud)
· Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar gyfer y Bil Dadreoleiddio: Diwygiadau mewn perthynas â Phedolwyr a Chytundebau Cartref-Ysgol (15 munud)
Dydd Mercher 17 Medi 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i gyfleoedd ariannu’r UE 2014-2020 (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)